Mae Nia yn argraffydd sgrin ac yn ddylunydd tecstilau yn Abertawe, sy’n arbenigo mewn nwyddau cartref ag ategolion monocrôm sydd wedi’u hargraffu â llaw! Yn fuan ar ôl graddio o Goleg Celf Abertawe yn 2016, lansiodd Nia ei brand ‘Nia Rist Prints’ ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae ei phrintiau yn llawn siapiau beiddgar, patrymau trawiadol` a polka dots! Mae ei gwaith wedi cael eu harddangos ledled y DU ac yn fwyaf diweddar arddangoswyd ei chasgliad newydd yn Wythnos Ddylunio Llundain. Mae ei chasgliad yn amrywio o bapur wal wedi’i argraffu â llaw, lampau, clustogau ac ategolion – pob un wedi’i argraffu â llaw â chariad yn ei stiwdio polka dots yn Ne Cymru. Mae’r nwyddau yn cael eu hargraffu gan ddefnyddio cotwm o’r ansawdd uchaf a’u hargraffu gan ddefnyddio inciau dŵr. Gallwch ddod o hyd i gynnyrch Nia ar ei gwefan www.niaristprints.com neu ar instagram: niaristprints

Filter Products Showing all 7 results
Categories
SELLERS
Sort By
Price